Y Cyfarfod Llawn

 

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mercher, 21 Medi 2011

 

Amser y cyfarfod:
13:30

 

 

 

 

Agenda

(16) v3

 

<AI1>

1. Cwestiynau Cyllid i’r Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Ty (45 munud) 

 

Gweld y cwestiynau

 

</AI1>

<AI2>

2. Cwestiynau i’r Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth (45 munud) 

 

Gweld y cwestiynau

 

</AI2>

<AI3>

3. Cynigion i ethol Aelodau i bwyllgorau (5 munud) 

NNDM4801 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol:

1. Nick Ramsay (Ceidwadwyr Cymreig) yn aelod o’r Pwyllgor Menter a Busnes yn lle Andrew RT Davies (Ceidwadwyr Cymreig); a

2. Nick Ramsay yn Gadeirydd y Pwyllgor Menter a Busnes yn lle Andrew RT Davies (Ceidwadwyr Cymreig).

NNDM4802 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Suzy Davies (Ceidwadwyr Cymreig) yn aelod o’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn lle Antoinette Sandbach (Ceidwadwyr Cymreig).

NNDM4803 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Paul Davies (Ceidwadwyr Cymreig) yn aelod o’r Pwyllgor Cyllid yn lle Nick Ramsay (Ceidwadwyr Cymreig).

NNDM4804 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol William Graham (Ceidwadwyr Cymreig) yn aelod o’r Pwyllgor Busnes yn lle Nick Ramsay (Ceidwadwyr Cymreig).

NNDM4805 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Janet Finch-Saunders (Ceidwadwyr Cymreig) yn aelod o’r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol yn lle William Graham (Ceidwadwyr Cymreig).

NNDM4806 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol William Graham (Ceidwadwyr Cymreig) yn aelod o’r Pwyllgor Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn lle Janet Finch-Saunders (Ceidwadwyr Cymreig).

</AI3>

<AI4>

4. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig (60 munud) 

 

NDM4798 William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi â phryder bod llai na hanner gorsafoedd rheilffordd Cymru yn hollol hygyrch i bobl anabl;

 

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

 

a) Wneud trafnidiaeth gyhoeddus yn fwy hygyrch, drwy ddarparu gwybodaeth glyweledol ac ymestyn y Cerdyn Bws Cydymaith;

 

b) Hybu ymwybyddiaeth a hyfforddiant staff mewn perthynas â gofynion teithwyr anabl.

 

Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau ei bod yn ymgynghori’n llawn â phobl anabl a chynrychiolwyr grwpiau anabledd wrth ddatblygu unrhyw gynlluniau ar gyfer gwella hygyrchedd i drafnidiaeth gyhoeddus.

 

</AI4>

<AI5>

5. Dadl Plaid Cymru (60 munud) 

 

NDM4800 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi:

 

a) Y toriadau difrifol yn y cyllid cyfalaf sydd ar gael i Lywodraeth Cymru;

 

b) Y diffyg gweithredu a fu gan Lywodraeth gyfredol Cymru i ganfod a denu ffynonellau newydd o gyllid i Gymru; ac

 

c) Effeithiau’r hinsawdd economaidd bresennol, gan gynnwys yr anawsterau sy’n wynebu busnesau Cymru oherwydd yr amodau byd-eang sy’n arafu a’r bygythiadau i swyddi yn sgil hynny; a

 

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

 

a) Mynd ati’n rhagweithiol i chwilio am ffrydiau ariannu ychwanegol i Gymru yn yr un modd ag y mae llywodraethau gwledydd datganoledig eraill wedi'i wneud;

 

b) Gweithio gyda’r sector cyhoeddus yng Nghymru i gyflwyno newidiadau i arferion caffael ar frys er mwyn ysgogi diwydiant a chreu swyddi yng Nghymru; a

 

c) Chyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU i gyflwyno toriad dros dro mewn TAW er mwyn ysgogi twf economaidd ymhellach.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

[os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael eu dad-ddethol]

 

Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Dileu pwynt 1a) a rhoi yn ei le:

 

'Yr angen i Lywodraeth Cymru wneud y defnydd gorau o’r arian cyfalaf sydd ar gael yn yr hinsawdd economaidd bresennol.

 

Gwelliant 2 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

 

Ym mhwynt 1a), ar ôl “Llywodraeth Cymru” rhoi, “ac o dan gynlluniau a gyhoeddwyd gan Alastair Darling yn ei gyllideb yn 2009, byddai toriadau o 45% dros 3 blynedd yng nghyllideb cyfalaf Cymru.

 

Gwelliant 3 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Dileu “diffyg ” ym mhwynt 1b).

 

[os derbynnir gwelliant 4, bydd gwelliant 5 yn cael eu dad-ddethol]

 

Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Dileu pwynt 2c) a rhoi yn ei le:

 

Sefydlu cynllun partneriaeth cyhoeddus-preifat ‘Gwnaed yng Nghymru’ fel rhan o gynllun Seilwaith Cymru.

 

Gwelliant 5 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

 

Dileu pwynt 2c).

 

Gwelliant 6 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn galw ar yr holl bleidiau a gynrychiolir yn y Cynulliad i weithio’n adeiladol ar y broses debyg i Calman sy’n cael ei chynnal gan Lywodraeth y DU.

 

</AI5>

<AI6>

6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig (60 munud) 

 

NDM4799 William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn mynegi pryder ynghylch y diffyg tryloywder gan Lywodraeth Cymru ynghylch dyfodol llywodraeth leol;

 

2. Yn cydnabod pwysigrwydd bod llywodraeth leol yn rhan sylfaenol o ddemocratiaeth yng Nghymru; a

 

3. Yn galw am ddadl lawn ac agored ynghylch cyflenwi gwasanaethau cyhoeddus.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le 

 

Yn nodi’r cyfarwyddyd clir a roddwyd gan Lywodraeth Cymru i lywodraeth leol, gan gynnwys yn y Cyngor Partneriaeth Llywodraeth Leol ym mis Gorffennaf ac yn natganiad ysgrifenedig y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau i’r Cynulliad ar 13 Gorffennaf 2011.

 

Linc i bapur “Y dull o gydweithredu’n rhanbarthol: hyrwyddo cysoni” (PC 37-04) ar gyfer cyfarfod y Cyngor Partneriaeth Llywodraeth Leol ar 21 Gorffennaf 2011.

 

http://cymru.gov.uk/topics/localgovernment/partnership/council/agendas/37thmeeting/?skip=1&lang=cy

 

Linc i Ddatganiad 13 Gorffennaf 2011

 

http://cymru.gov.uk/about/cabinet/cabinetstatements/2011/13julypublicservices/?lang=cy

 

Gwelliant 2 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 2 ac ail-rifo’r pwyntiau sy'n dilyn:

 

Yn cydnabod y pwysau sylweddol a roddir ar lywodraeth leol o ganlyniad i’r toriadau mewn cyllid a orfodwyd gan Lywodraeth y DU.

 

Gwelliant 3 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

 

Ym mhwynt 3, ar ôl ‘gwasanaethau cyhoeddus’ rhoi ‘sy’n cynnwys trafodaeth am ad-drefnu a’r gwasanaethau y tu allan i lywodraeth leol fel iechyd, addysg uwch ac addysg bellach, trafnidiaeth a datblygu economaidd a chymunedol.

 

Gwelliant 4 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn dal yn bryderus am y pwerau a roddwyd i Weinidogion Cymru i uno awdurdodau lleol drwy is-ddeddfwriaeth.

 

Gwelliant 5 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn mynegi pryder am y posibilrwydd o sefydlu chwe grŵp rhanbarthol o awdurdodau lleol yn ogystal â phedwar grŵp addysg rhanbarthol.

</AI6>

<AI7>

Cyfnod pleidleisio

</AI7>

<AI8>

7. Dadl Fer (30 munud)

 

NDM4797 Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru):


Yr Asiantaeth Cynnal Plant – Yr Angen am Newid

 

</AI8>

<TRAILER_SECTION>

 

Bydd y Cynulliad yn cwrdd eto yn y Cyfarfod Llawn am 13:30 Dydd Mawrth, 27 Medi 2011

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

 

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>